Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd
Mae'r Gymdeithas yn croesawu aelodau newydd. Y mae'n arbennig o falch fod ei chysylltiad gydag ysgolion yn cryfhau drwy brosiect Adnabod Ardudwy.
Sefydlwyd Y Gymdeithas yn 1939 ac mae’n annog astudiaeth o hanes a chadwraeth cofnodion lleol. Bob blwyddyn, mae’n cynnal darlithoedd ar bynciau hanesyddol ac archaeolegol. Trefnir hefyd ymweliadau a gwibdeithiau. Mae’n cyhoeddi cylchgrawn blynyddol a chyhoeddodd gyfrolau pwysig ‘History of Merioneth’ I a II.
Cyflwynodd Y Gymdeithas gais am grant i Gronfa Dreftadaeth y Loteri i gynnal prosiect Adnabod Ardudwy – Knowing Ardudwy. Mae hefyd yn cefnogi gwaith y prosiect yn eiddgar ac yn annog cysylltiadau gydag ysgolion lleol, a chydweithio gyda chymdeithasau a sefydliadau.