Cymdeithasau
Ceir nifer o gymdeithasau hanes egniol yn Ardudwy. Mae aelodau’r grwpiau hyn yn sicrhau nad yw gwybodaeth leol bwysig am dreftadaeth ddiwylliannol Ardudwy a chof gwlad eu hardal yn mynd ar goll am byth.
Gyda chefnogaeth y prosiect mae amryw o grwpiau yn ymchwilio ymhellach ac yn cofnodi’r wybodaeth. Er enghraifft, gwelir cofnodi tystiolaeth lafar yn Harlech a mapio enwau caeau yn Nantmor, Croesor, Llanfrothen a Llanelltyd.
Mae gwaith sylweddol wedi ei wneud gan Gymdeithas Hanes Bro Ffestiniog yn cofnodi a chadw enwau lleol dros gyfnod o flynyddoedd. Cynhyrchir cylchgrawn blynyddol, 'Rhamant Bro', un sy'n cynnwys gwybodaeth amhrisiadwy am hanes y cylch.
Yn Gymraeg y cynhelir y cyfarfodydd a Chymraeg yw'r cylchgrawn.