Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
'Bu'r Ymddiriedolaeth yn bartner gydag Adnabod Ardudwy o'r cychwyn cyntaf, a bu wrth law i roi gwybodaeth a chyngor i'r arweinyddion ar sut i ddatblygu'r wefan. Yn ogystal, bu staff yr Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo drwy fynychu cyfarfodydd cynllunio a datblygu'r prosiect; cyfrannu deunyddiau a dehongli tirwedd Ardudwy ar gyfer teithiau tywys; cyflwyno sgyrsiau a gweithdai, gan gynnwys cyfraniad i Gynhadledd CHChSF/Adnabod Ardudwy ym Mhlas Tan y Bwlch ym Medi 2007. Un o brif amcanion y prosiect oedd i dynnu at ei gilydd, data Rhian Parry a data eraill sydd yn bod yn y cylch. Mae Cofnod Cadwraeth Hanesyddol Rhanbarthol (HER) sydd ar gael gan yr Ymddiriedolaeth yn gynwysiedig yn y wefan er mwyn dehongli a lleoli'r henebion a nodweddion eraill sydd o ddiddordeb hanesyddol. Mae'r 'HER' yn cynnwys pob agwedd o weithgaredd dyn yn y dirwedd o gyfnod cynhanesyddol i'r ugeinfed ganrif. Gobeithiwn y bydd yr wybodaeth hon yn mynd law yn llaw a^'r wybodaeth ym mapiau'r Degwm er mwyn rhoi darlun llawnach o'r gorffennol. Hefyd, bydd yn bosibl i'r rhai sy'n darganfod gwybodaeth newydd i'w drosglwyddo i'r Ymddiriedolaeth a thrwy hyn, ychwanegu at ein cofnodion ninnau. Mawr obeithiwn y bydd gwefan Adnabod Ardudwy yn adlewyrchu'r llwyddiant o drosolwg eang o'r gorffennol a dangos fod modd dysgu llawer mwy drwy rannu a chydlynu gwybodaeth.
Y cyfeiriad cyswllt yw: http://www.heneb.co.uk/