Rydych chi yma: Cartref Cysylltiadau
Gweithredoedd Dogfen

Cysylltiadau

I fyny Un Lefel

Mae gennym gysylltiadau da gyda nifer dda o sefydliadau. Ni fyddai datblygu'r wefan hon yn bosibl heb gyngor a chymorth llawer ohonynt.

Cronfa Dreftadaeth y Loteri
Mynegodd Jennifer Stewart, Rheolwraig y CDL yng Nghymru, 'Mae'r prosiect ffantastig yma, yn dangos fod treftadaeth ar ein stepen drws! Bydd yn creu cyfle i bobl leol ddarganfod mwy am eu hanes lleol mewn ffordd greadigol. Mae nifer fawr o bobl yn dal i gredu fod treftadaeth gan fwyaf yn ymwneud â phlastai a chestyll, ond prosiectau fel hyn sy'n dangos i ni fod treftadaeth yn gymaint mwy na hynna’.
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
'Mae'r Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru'n falch iawn i gefnogi prosiect Adnabod Ardudwy ac yn barod, fe gyfranodd awyrluniau i ysgolion y cylch. --Hefyd, cyflwynodd weithdai ar archaeoleg ac awyrluniau i oedolion. Cydweithodd ein arbenigwyr ar adeiladau hanesyddol gyda'r prosiect ar ymchwil dyddio cyplau dau dy^ cynnar yn Ardudwy. Mae cynlluniau i ychwanegu at hyn. --Mewn ardal o dirwedd mor gyfoethog ei hanes a'i harchaeoleg fel Ardudwy, --teimlwn ei bod yn bwysig i gefnogi'r fenter gymunedol gyffrous hon.
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
'Bu'r Ymddiriedolaeth yn bartner gydag Adnabod Ardudwy o'r cychwyn cyntaf, a bu wrth law i roi gwybodaeth a chyngor i'r arweinyddion ar sut i ddatblygu'r wefan. Yn ogystal, bu staff yr Ymddiriedolaeth yn cynorthwyo drwy fynychu cyfarfodydd cynllunio a datblygu'r prosiect; cyfrannu deunyddiau a dehongli tirwedd Ardudwy ar gyfer teithiau tywys; cyflwyno sgyrsiau a gweithdai, gan gynnwys cyfraniad i Gynhadledd CHChSF/Adnabod Ardudwy ym Mhlas Tan y Bwlch ym Medi 2007. Un o brif amcanion y prosiect oedd i dynnu at ei gilydd, data Rhian Parry a data eraill sydd yn bod yn y cylch. Mae Cofnod Cadwraeth Hanesyddol Rhanbarthol (HER) sydd ar gael gan yr Ymddiriedolaeth yn gynwysiedig yn y wefan er mwyn dehongli a lleoli'r henebion a nodweddion eraill sydd o ddiddordeb hanesyddol. Mae'r 'HER' yn cynnwys pob agwedd o weithgaredd dyn yn y dirwedd o gyfnod cynhanesyddol i'r ugeinfed ganrif. Gobeithiwn y bydd yr wybodaeth hon yn mynd law yn llaw a^'r wybodaeth ym mapiau'r Degwm er mwyn rhoi darlun llawnach o'r gorffennol. Hefyd, bydd yn bosibl i'r rhai sy'n darganfod gwybodaeth newydd i'w drosglwyddo i'r Ymddiriedolaeth a thrwy hyn, ychwanegu at ein cofnodion ninnau. Mawr obeithiwn y bydd gwefan Adnabod Ardudwy yn adlewyrchu'r llwyddiant o drosolwg eang o'r gorffennol a dangos fod modd dysgu llawer mwy drwy rannu a chydlynu gwybodaeth.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Mae hanes adfer hen dy^ neuadd canoloesol Egryn yn dangos i'r dim sut mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda phrosiect Adnabod Arduwy. Ers pan ddechreuodd y gwaith adnewyddu yn 2006, cynhaliwyd pum penwythnos agored. Rhoddwyd cyfle i bobl lleol i rannu eu gwybodaeth a'u profiadau personnol o'r fferm hynod hon gyda staff yr Ymddiriedolaeth. Bydd yr holl gyfraniadau hyn yn cyfrannu at becyn gwybodaeth fydd yn galluogi ymwelwyr y dyfodol a'r gymuned leol i ddeall cyd-destun Egryn yn yr ardal arbennig hon. Cynrychiolwyd prosiect Adnabod Ardudwy ym mhob un o'r dyddiau agored a galluogodd hyn i'r prosiect a ninnau i gyfathrebu a^ chynulleidfa fwy eang. Heb os, un o'r atgofion gorau i mi o'r penwythnosau hyn oedd clywed adrodd yn y ty^, gywyddau canmol teulu Egryn yr 1600au, a hyn am y tro cyntaf mewn 400 mlynedd. Yr oedd yn brofiad a roddodd gip olwg ar fyd y ma^n uchelwyr yn y 16g. 'Rydym yn barod yn trafod hefo Rhian sut y gallwn ymestyn ein cysylltiad gyda phrosiect Adnabod Ardudwy er mwyn gwneud defnydd pellach o'r adnoddau diddorol ac eang mae ei hymchwil wedi ei greu. Mae'n enghraifft berffaith o weithio ar y cy^d gyda'r ddau brosiect yn elwa o'i gilydd.
Cyngor Gwynedd – Gwasanaethau Archifau, Llyfrgelloedd ac Ysgolion
Mae Cyngor Gwynedd wedi cefnogi prosiect Adnabod Ardudwy mewn sawl ffordd. Mae disgyblion pedair ysgol gynradd yn mwynhau teithiau tywys yn eu plwyf. Dysgant drwy arsylwi a chwilota a dilynnir hyn gan waith cefnogol yn y dosbarth ac yn Archifdy Meirionnydd yn Nolgellau. Rhoddir cymorth gan staff Gwasanaethau Archifau Gwynedd. Mae cysylltiadau agos rhwng yr archifdy a^ Phwyllgor Rheoli'r Prosiect. Hefyd, gwnaed cytundeb rhwng y Cyngor a'r prosiect i ddangos mapiau'r AO, gyda'u caniatad, ar y wefan hon, dan adain trwydded y Cyngor. Bydd y prosiect yn darparu elfen o raglen Dysgu Gydol Oes y Cyngor yn Ardudwy. Gobeithia'r llyfrgelloedd lleol a'r prosiect i ddal ati i greu cysylltiadau buddiol.
Parc Cenedlaethol Eryri
 
Cyngor Cefn Gwlad Cymru
Mae'r cysylltiadau pennaf gyda'r Cyngor drwy swyddogion unigol sy'n adnabod Ardudwy'n dda. Cafwyd gymorth yn lleol yn ystod y cyfnod paratoi'r cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Yn fwy diweddar, cafwyd mynediad at ddyluniau archaeolegol o dai llwyfan yr Oesoedd Canol.
Cymdeithas Astudiaethau Enwau ym Mhrydain ac Iwerddon
Dolen ddiweddar yw hon, un a ddatblygodd drwy ddiddordebau ar y cyd mewn Astudiaethau Enwau. Elwodd arweinydd y prosiect o'r cysylltiadau a wnaed drwy gynadleddau blynyddol y gymdeithas yn Nulun a Chaeredin. Rhoddwyd darlith fer gyda lluniau yn Nulun i egluro'r gwaith ymchwil a phrosiect Adnabod Ardudwy.
Prifysgol Bangor
Gwnaed yr ymchwil sy'n sail i'r prosiect CDL hwn yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor. Arolygwyd yr ymchwil gan yr Athro Gwyn Thomas. Astudiaeth ddiwylliannol a chymdeithasegol o Ardudwy oedd y testun. Defnyddiwyd dadansoddiad o enwau ffermydd a chaeau hynafol Ardudwy i ail greu'r dirwedd ganoloesol. Fe gynnwys yr enwau hyn ein hanes a dangosant beth a ddigwyddodd ganrifoedd yn o^l. Erys y cysylltiadau gyda'r Brifysgol ac mae'n bosibl y bydd gwaith ymchwil ychwanegol yn dilyn