Mapiau 3D
Mapiau o Ardudwy ar bum cyfnod hanesyddol
Oes Efydd
Cyrhaeddodd yr ymwelwyr cyntaf Arudwy tua phum mil o flynyddoedd yn ôl.
Mae'n debyg fod y storm draethau o dywod a graean ymhellach allan na heddiw. Gwelir coed pîn a choedlannau gwern llaith ar ymyl y morfeydd. Ymhellach o'r mor mae'r llethrau isaf wedi eu gorchuddio â choedydd derw agored. Wedyn, mae'r coed yn teneuo ychydig ac yn agor allan weithiau ar wastadoedd. Llifa afon Dwyryd ar ddwy ochr Ynys Llanfihangel-y-traethau. Yn y cefn gwlad, i'r dwyrain, gwelir mynyddoedd ysgythrog gyda chlogwyni serth. Tyfa coed bedw yma ac acw ar hyd ymylon uchaf yr ucheldir. Daw'r tir yn fwy a mwy llwm a chorsiog mewn mannau.
Oes Haearn
Datblygodd y twyni tywod o flaen y storm draethau graeanog ar yr arfordir newydd sy'n dod i'r golwg yn Ardudwy. Mae tua 600 mlynedd cyn Crist. Ymdoddai'r gwastadleodd distyll o amgylch yr aberoedd i'r corsydd. Tewychodd y coedydd derw ar y llethrau isaf, y glannau ac i fyny aber afon Artro o ganlyniad i'r glaw trwm. Yma ac acw, mae llennyrch bychain o iseldir llaith gyda choed derw a gwern. Yn uwch i fyny, cymerir lle'r coed gan fedw a rhedyn lle cliriwyd y tir. Mae da yn pori'r gwair rhos a gwelir weithiau, waliau igam ogam i'w cadw rhag crwydo'n rhy bell. Ymhellach ymlaen, ffynnu wna'r coed bedw mewn tywydd gwlyb ac yma ac acw ceir darnau tywyllodrus o gors a siglen. Weithiau, ar uchder rhwng 200 a 400 meter, fel yn Erw Wen, gwelir tai crynion unigol yngyd â terasau neu lwyfannau o dir wedi ei aredig. Tyfir cnydau a llysiau. Islaw yn yr aber, nid yw Morfa Harlech mor eang â heddiw.
I fewn yn yr ucheldiroedd, mae ardaloedd mawr o fawnogydd a chorsydd.
Yr Oesoedd Canol
Denodd tywydd braf a sych rhan gyntaf yr Oesoedd Canol fwy o bobl i'r ucheldir lle 'roedd digon o dir ar gael. Llwyddodd rhai i oroesi yno a gwelir trin y tir ar y llechweddau isaf yn ogystal â'r glannau. Dirywia'r tywydd yn ystod blynyddoedd ola'r Oes Haearn. Cynyddu mae'r gwlaw, methu mae'r cnydau, ac mae salwch yn y fro. Gwelir symud i lawr o'r ucheldir i'r tiroedd ymylol lle mae bywyd yn haws.
1600
Mae llongau bychain yn dal i ddefnyddio hafan ddiogel Mochras ar gyfer masnachu lleol. Daw nwyddau i mewn ac mae'r ffeiriau hwylus lleol yn dal yn brysur. Defnyddir y llwybr rhwng Harlech a Thrawsfynydd yn gyson. Gwelir da yn cael eu gyrru i'r marchnadoedd ac, mae rhai o'r ffriddoedd isaf yn cael eu hamgau gan ystadau newydd Corsygedol, y Glyn a Maesyneuadd. Prynnir tiroedd cyfagos i ehangu'r ystadau ac yn awr mae'r ffermydd a'r caeau fel y gwelwn hwynt heddiw yn datblygu. Dalier i dorri'r coed derw cynhenid ar gyfer porfa. Mae hwn yn agored ac yn rhoi hawliau pori a chynhaliaeth lom i'r plwyfolion. Gorchuddir y llethrau creigiog uchel â rhedyn.
1800
Amgaeir darnau helaeth o'r tir mynydd a'r tir comin gan berchenogion yr ystadau mawr. Gwelir codi waliau cerrig sych mewn llinellau syth drwy Ardudwy a hyd yn oed hyd at gopaon y mynyddoedd uchaf. Nid oes yr un darn o dir heb ei hawlio. Mae'r Goron yn dal y rhan fwyaf o'r tiroedd ffermio ymylol. Yn y man, mae'r 'ffriddoedd newydd' ar rent i'w tenantiaid a chollwyd yr hawliau pori traddodiadol. Er hyn, ychydig o newid a welir yn ucheldir Ardudwy ond stori wahanol sydd ar y glannau. Galluogodd y cloddiau llanw i adennill tiroedd sylweddol ar gyfer gweirgloddiau. Gwnaed hi'n bosibl hefyd i ddenu ffyrdd newydd ar hyd y glannau a daeth y rheilffordd.