Rydych chi yma: Cartref Mapiau a gysylltwyd Awyrluniau
Gweithredoedd Dogfen

Awyrluniau

Efallai yr hoffech wybod mwy am yr awyrluniau sydd ar y wefan hon

Yr awyrluniau ar y wefan
Cwmni Bluesky International Ltd sydd wedi tynnu’r awyrluniau sydd ar y wefan hon.  Mae gennym drwydded i’w dangos ar ein gwefan.  Mae hawlfraint COWI A/S & Bluesky International Limited ar y lluniau. 
Ffilmiwyd Ardudwy yn 2006 ac mae’r lluniau hyn yn ‘1m Resolution Data’.
Mae’r cwmni hefyd yn cynhyrchu awyrluniau o faint poster ac mae’r prosiect yn cyflwyno un i’r ysgolion sy’n rhan o’r cynllun.  Y disgyblion fydd yn dewis yr union ddarn o’r plwyf sydd i’w gynnwys a gwneir hyn ar-lein. 
Bydd yr awyrluniau sydd ar y wefan yn arbennig o ddefnyddiol i’r ysgolion gan eu bod wedi’u cysylltu â mapiau Arolwg Ordnans (AO) a mapiau Degwm Ardudwy.  Bydd disgyblion yn gallu symud rhwng y naill a’r llall.  Gallant gymharu ymddangosiad 2D y ffermydd a’r caeau ar fapiau Degwm gyda’r ‘contours’ sydd ar fapiau AO a hefyd y modelau 3D.  Gallant hefyd gysylltu enwau’r caeau sydd yn disgrifio’r math o dir gyda’r dirwedd ei hun, gan gynnwys coedydd, corsydd a chreigiau.  Medrant ddatblygu’r sgiliau lefel uchel sydd bellach yn rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol drwy gyfrwng yr adnoddau hyn, trwy ymweliadau a gwaith dosbarth.  Mae’r prosiect yn cefnogi disgyblion ac athrawon drwy roi cymorth ac arian. 
Bydd yr oedolion a fu yng ngweithdy mis Mai Toby Driver, o’r Comisiwn Henebion ar Archaeoleg ac Awyrluniau, yn gallu manteisio ar y mapiau hyn.
Hefyd ar ein gwefan mae awyrluniau unionsyth ac ar osgo o eiddo’r Comisiwn Henebion, llawer ohonynt wedi’u tynnu gan Dr Toby Driver.  Mae’r rhain yn dangos mwy o fanylion. 
Gwelir llyfrgell ardderchog y Comisiwn Henebion yn y pencadlys ym Mhlas Crug, Aberystwyth.  Mae’n werth chweil gwneud siwrnai yno ond cofiwch ffonio ymlaen llaw i wneud trefniadau.  Cefnogwyd y prosiect gan y Comisiwn o’r cychwyn cyntaf, ac mae ei gefnogaeth yn amhrisiadwy.