Mapiau degwm
Ychydig o gefndir y Degwm a'r mapiau
Cyfeirir yn gyffredin at restrau enwau ffermydd a chaeau sydd law yn llaw â’r mapiau Degwm fel ‘Rhestrau’r Degwm’ ac maent i’w cael fesul plwyf. Fel arfer, rhestrir pob fferm yn ôl perchenogaeth. Enwir tenantiaid yn ogystal. Mae’r enwau hyn o ddiddordeb i haneswyr teulu.
Mae’r mapiau sydd ar y wefan yn fapiau bras a ddefnyddiwyd ar gyfer ymchwil. Rhoddwyd lliw i bob fferm er hwylustod. Gosodwyd enwau caeau o’r rhestrau Degwm ar y mapiau i’w gwneud yn haws i’w hastudio. Mae rhifau caeau ambell blwyf, fel Llanfihangel-y-traethau, yn anodd iawn i’w darllen. Hefyd, mae rhestrau Degwm caeau plwyf Llandanwg yn aneglur iawn, ac yn anodd iawn i’w darllen, hyd yn oed o dan olau uwch-las. ’Roedd cofnodi 14,000 o enwau caeau â llaw yn feichus ac, yn anorfod, rhaid oedd dewis rhwng bod yn gyflym a bod yn daclus. Gobeithio na fydd hyn yn creu anhawster.
Ysywaeth, ni chofnodir enwau caeau pedwar plwyf yn Ardudwy yn y Degwm. Gan fod rhestrau’r Degwm yn feincnod defnyddiol mae hyn yn ofid. Y pedwar plwyf yw -Maentwrog, Ffestiniog, Llanfrothen (a threfgordd Nantmor) a Llanelltyd.
Un o amcanion y prosiect yw llenwi’r bylchau hyn. Mae grwpiau ac unigolion yn ceisio cofnodi’r enwau sydd yn dal yng nghof yr ardal. Hefyd, maent yn cofnodi enwau sydd ar fapiau catalogau arwerthiant ffermydd a’u rhoi ar fapiau papur yr AO. Gwerthwyd nifer o’r tiroedd hyn ar ddechrau’r ugeinfed ganrif.
Mae gwaith y gwirfoddolwyr hyn o bwys eithriadol. O ganlyniad i newidiadau cymdeithasol a gwerthu ffermydd, fe ddryllir cysylltiadau teuluol gyda’r tir, a chyda hyn, y cof am enwau hynafol y caeau.
’Rydym wedi gofyn i’n dylunydd gwefan ein galluogi i ychwanegu’r enwau a geir yn y dyfodol, i’r mapiau Arolwg Ordnans ar ein gwefan. Bydd hyn yn gwneud iawn am absenoldeb mapiau Degwm yn y pedwar plwyf. Golyga hyn fod gwaith ein gwirfoddolwyr yn fwy gwerthfawr fyth a bydd gennym gofnod i’r dyfodol.
Byddwn hefyd yn gallu defnyddio’r un dulliau ymchwil a ddefnyddiwyd yn y 10 plwyf i ddarganfod mwy am ein tirwedd hanesyddol a diwylliannol yn y pedwar plwyf sy’n weddill.