You are here: Home Mapiau a gysylltwyd Sut i ddefnyddio'r mapiau
Document Actions

Sut i ddefnyddio'r mapiau

Bydd y map cyntaf a welwch yn dangos i chi ymhle yn Ardudwy yr ydych. Chwyddwch y map a gwelwch fap brasach sy'n dangos ffiniau caeau. Cliciwch ar gae i gael enw. Dylech weld cyfeirnod y Grid Cenedlaethol lle mae eich llygoden yn sefyll. Mae hwn yn ddefnyddiol iawn. Edrychwch wedyn ar awyrluniau a mapiau'r Degwm o'r un ardal. Byddwch yn amyneddgar. Mae'r cyfan yn llwytho'n araf.

Llywio o fewn y mapiau

Un glic a dal y llygoden i lawr ar ddarn o'r map a'i lusgo i'r cyfeiriad y dewisiwch.

Chwyddo

I chwyddo un pwynt o'r map, rhoddwch ddau glic hefo'r llygoden ar yr un safle.

Neu, defnyddiwch yr olwyn sydd ar y lygoden (os oes un) i chwyddo'r map.

I chwyddo ar ardal o'r map, daliwch 'SHIFT' i lawr a chliciwch ochr chwith y lygoden gan lusgo bocs o amgylch yr ardal a ddewisiwyd. 

Data'r Amgylchfyd Hanesyddol

Bu Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn hynod o garedig yn caniatau i ni ddangos detholiad  o'u data yn Ardudwy.  Gallwch weld lleoliad yr henebion ar y mapiau ar dri chyfnod hanesyddol wrth roi tic ar un neu fwy o'r blychau dan 'Mwy'.  I wybod mwy am yr Ymddiriedolaeth, neu'r data, ewch i'w gwefan drwy'n dolen.