Rydych chi yma: Cartref
Gweithredoedd Dogfen

Tudalen Groeso

Ardudwy yw enw'r ardal hudolus sy'n ymestyn o gyrion Beddgelert yn ei rhan ogleddol, Abermaw yn y de, Harlech yn y gorllewin a Thrawsfynydd yn y dwyrain.

front_page_image_1Mae gan Ardudwy, Gwynedd, Cymru dirwedd archaeolegol a hanesyddol unigryw sydd o bwysigrwydd Ewropeaidd.

 

front page image 2

 

Prosiect a noddir gan Gymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd yw Adnabod Ardudwy - Knowing Ardudwy. Mae’n seiliedig ar ymchwil sylweddol Dr Rhian Parry i arwyddocâd diwylliannol a hanesyddol enwau ffermydd a chaeau yn Ardudwy.

front_page_image_3

Ariannir y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac mae iddo gefnogaeth nifer o bartneriaid gan gynnwys Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyngor Gwynedd. Fe ellir pori ar y wefan hon am awyrluniau, mapiau Arolwg Ordnans a mapiau Degwm.  Mae angen caniatad ysgrifenedig ar gyfer unrhyw ddefnydd arall ohonynt. Cysyllter a Rhian Parry ar y wefan hon.  Cliciwch ar 'Cyswllt' ar ben y dudalen ac anfonwch e-bost.