You are here: Home Newyddion Croesi'r Traeth Bach
Document Actions

Croesi'r Traeth Bach

Ar 16 Mehefin 2008, cyrhaeddodd disgyblion Ysgol Cefn Coch orsaf Ty Gwyn, Ynys. Cerddwyd ymlaen ar hyd y ffordd fawr, man lle bu'r môr yn llifo drosto unwaith.

Croesawyd y plant i'r eglwys gan y Parch. Robert Hughes, y cyn Reithor.  Adroddodd hanes yr eglwys wrthynt ac atgoffodd y plant o'r cysylltiadau clos rhwng yr eglwys a'r mor.  Fe gafodd y plant gyfle i grwydro'r fynwent ar ben eu hunain i chwilio am gerrig beddau hynafol.  Cawsant hyd i nifer o'r 24 carreg sy'n coffau morwyr, capteniaid llong ac adeiladwyr cychod.  'Roeddan nhw wedi gweld rhai o'r enwau yn barod, yn Sensws 1861.