You are here: Home Ysgolion
Document Actions

Ysgolion

.

 

Mae pum ysgol Ardudwy yn rhan o’r prosiect. Dewisodd pob ysgol weithgaredd lleol sydd o ddiddordeb i’r disgyblion a’u hathrawon, sy’n ateb gofynion y Cwricwlwm Cenedlaethol ac amcanion y prosiect. Ariannir y gweithgareddau hyn gan y prosiect.

 

Er enghraifft, mae Ysgol Cefn Coch yn ymchwilio i hanes y cychod a’r llwybrau ar draws aberoedd y Glaslyn a’r Ddwyryd. Cysylltir hyn ag ymweliad i’r Archifdy yn Nolgellau.