Beth mae disgyblion yn ei wneud?
Mae disgyblion pedair ysgol gynradd ar arfordir Ardudwy yn brysur yn astudio'u tirwedd leol. Maent hefyd yn ymweld ag Archifdy Meirionnydd yn Nolgellau i ddysgu am ffynonellau tystiolaeth, a sut i'w defnyddio. Mae swyddog addysg Gwasanaethau Archifau Gwynedd yno i'w cynorthwyo.
Mawr obeithiwn y bydd dwy ysgol arall yn ymuno yng ngwaith y prosiect yn ystod y flwyddyn.
Yr ysgolion sydd eisoes yn rhan o'r prosiect yw:
Ysgol Cefn Coch, Penrhyndeudraeth
Ysgol Tan y Castell, Harlech
Ysgol Llanbedr
Ysgol Dyffryn Ardudwy