You are here: Home Ysgolion Ysgol Cefn Coch Taith i Lanfihangel-y-traethau
Document Actions

Taith i Lanfihangel-y-traethau

Ar 16 Gorffennaf, cyrhaeddodd y disgyblion orsaf Ty Gwyn, Ynys. Rhyfeddwyd wrth feddwl y byddai'r mor yn llifo o gwmpas yr ynys dros safle'r ffordd bresennol. Cawsant groeso mawr gan Y Parch. Robert Hughes, cyn Reithor. Adroddodd hanes yr eglwys a'u hatgoffa o'i chysylltiadau clos a'r mor. Yn y fynwent, cawsant gyfle i chwilio am 24 o gerrig beddau llongwyr, capteniaid ac adeiladwyr cychod. Gwelsant enwau rhai ohonynt yn Sensws 1861 yn yr ysgol.

Pupils arriving at Llanfihangel-y-traethau church

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mewn tywydd braf fe waeth y plant gopiau papur a gwer o'r ysgrifen ar ambell garreg fedd,  adnabod rhai mynyddoedd yn y pellter ac edrych ar y dirwedd o'u cwmpas.

Gwelwyd sut y bu i newidiadau yn lefel y mor wneud gwahaniaethau sylweddol i'r ffordd y teithiai pobl o gwmpas yr ardal a'r gwaith oedd ar gael.  Eglurodd Bob Hughes fod y plwyf lawer mwy prysur a phoblog dau gan mlynedd yn ol.