Ysgol Cefn Coch
I fyny Un LefelMae gan disgyblion Ysgol Cefn Coch ddiddordeb mawr yn yr hen lwybrau a ddefnyddid gan deithwyr ar draws y Traeth Bach o Finffordd ger Penrhyndeudraeth i eglwys y plwyf yn Llanfihangel-y-traethau i'r de, ac ar draws y Traeth Mawr i ogledd Gwynedd. 'Roedd prysurdeb rhyfeddol nifer o gychod fferi a diwydiant adeiladu cychod yno hyd at yr 1860 au.
- Cerdded ym Minffordd
- Dilyn hen lwybrau'r plwyf ar droed mae disgyblion Cefn Coch yr haf hwn
- Taith i Lanfihangel-y-traethau
- Ar 16 Gorffennaf, cyrhaeddodd y disgyblion orsaf Ty Gwyn, Ynys. Rhyfeddwyd wrth feddwl y byddai'r mor yn llifo o gwmpas yr ynys dros safle'r ffordd bresennol. Cawsant groeso mawr gan Y Parch. Robert Hughes, cyn Reithor. Adroddodd hanes yr eglwys a'u hatgoffa o'i chysylltiadau clos a'r mor. Yn y fynwent, cawsant gyfle i chwilio am 24 o gerrig beddau llongwyr, capteniaid ac adeiladwyr cychod. Gwelsant enwau rhai ohonynt yn Sensws 1861 yn yr ysgol.