Ysgol Dyffryn Ardudwy
Disgyblion yn cerdded yn ol i'r gorffennol
Cerddodd disgyblion Ysgol Ardudwy i fferm Byrllysg ar y 7fed a'r 8fed o Orffennaf i weld olion bryn-gaer fechan o'r cyfnod Prydeinig-Rhufeinig, ffordd y porthmyn a'r hen ffermdy. Wedyn, yn y dosbarth defnyddiwyd mapiau'r Degwm i ddarganfod enwau'r caeau a chymharu ffurfiau'r caeau gyda rhai heddiw, mewn awyrluniau ac ar fapiau Arolwg Ordnans. Clywsant am hanes y teulu a'r cartref gan Mrs Heather Jones. Mae hi wedi hel achau a hanes teulu ei gwr sydd wedi byw yma neu ar ffermydd cyfagos ers canrifoedd. Dilynant hyn gydag ymweliad ag Archifdy Dolgellau ar 11eg Gorffennaf.