Ysgol Llanbedr
Up one levelBydd disgyblion Ysgol Llanbedr yn dilyn hynt afon Artro i fyny at Gapel Salem y Cymerau. (Ystyr yr enw 'cymerau' yw man lle mae dwy afon yn cyfarfod). Wedyn, dilynant afon Nantcol ar hyd y llwybr natur ardderchog sydd ar ei hyd. Mae'r llwybr yn codi'n serth drwy goedlan dderw, hynafol ac yna, allan i dir mynydd agored. Yn y pellter gwelir Moelfre ac i'r dwyrain, Llethr a chip ar gopa Rhinog Fach. Mae mapiau'r Degwm yn enwi'r ffermydd cyfagos a'r ynysoedd bychain yn yr afon. Bydd y disgyblion yn astudio nhw yn y dosbarth yn y man. Hefyd ar y gweill mae taith i'r Archifdy yn Nolgellau.
There are currently no items in this folder.